Ailgylchu yn y Gweithle
Darganfyddwch fwy am reoliadau Llywodraeth Cymru a fydd yn gofyn i bob gweithle wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu
Beth yw Ailgylchu yn y Gweithle?
O 6 Ebrill 2024, bydd y gyfraith yn gofyn i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru ddechrau gwahanu eu gwastraff ar gyfer ailgylchu.
chwe ffrwd gwastraff craidd
Bydd y rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle’n ei gwneud hi’n ofynnol i weithleoedd yng Nghymru ddechrau gwahanu’r holl ddeunyddiau ailgylchu’n chwe ffrwd wastraff craidd. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid gwahanu, storio a chasglu gwastraff ailgylchadwy ar wahân erbyn 6 Ebrill 2024. Dyma’r deunyddiau y bydd angen eu gwahanu ar gyfer eu casglu:
Sut y gall Biffa eich cefnogi chi
I sicrhau bod ein cwsmeriaid i gyd wedi eu paratoi’n dda ar gyfer y newidiadau sydd ar y gweill, rydym wedi gwneud y broses o newid eich cynwysyddion gwastraff i’r rheiny sy’n ofynnol o dan y gofynion newydd yn un ddiffwdan. Rydym yn cynnig gwasanaethau casglu papur a cherdyn ynghyd â phlastig, metel a chartonau i bob un o’n cwsmeriaid sydd efallai angen ychwanegu ailgylchu at eu gwasanaethau gwastraff. Yn ogystal, rydym yn darparu opsiynau hyblyg o ran eich cynwysyddion, sy’n gadael i chi ddewis rhwng bagiau neu finiau ar gyfer eich Gwastraff Cyffredinol neu wasanaethau ailgylchu.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ar Ailgylchu yn y Gweithle. Lawrlwythwch hwn nawr a'i rannu gyda'ch cydweithwyr i sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau newydd erbyn 6 Ebrill 2024.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ar Ailgylchu yn y Gweithle. Lawrlwythwch hwn nawr a'i rannu gyda'ch cydweithwyr i sicrhau eich bod yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau newydd erbyn 6 Ebrill 2024.
Lawrlwythwch nawr (2.54 MB)
Mwy o wybodaeth a diweddariadau parhaus am Ailgylchu yn y Gweithle
Lawrlwythwch a rhannwch adnoddau defnyddiol i gefnogi gweithredu casgliadau gwastraff ar wahân
Beth sy'n mynd i ba fin?
Ddogfenau cefnogi
Sut gallwch chi wahanu eich deunydd ailgylchu’n well
Rydym wedi creu fideo arbennig i rannu awgrymiadau defnyddiol ar sut gallwch chi wahanu eich deunydd ailgylchu'n well. Gwyliwch a rhannwch y fideo hwn gyda'ch cydweithwyr i wella ailgylchu ar gyfer eich busnes.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rheoliadau Newydd, cysylltwch â ni.